|
Fel arfer, yr ydym yn defnyddio y cynllunydd gwe "Dreamweaver"
i adeiladu tudalennau. Mae Dreamweaver yn creu côd pur iawn
HTML. Mae hyn yn golygu fod y wefan yn arddangos ymhob porwr (browser)
(Internet Explorer, Firefox etc.) ac ar bob system gweithredu (operating
system) fel y dylau. Ni fyddwn byth yn defnyddio côd perchnogol
sydd dimond yn arddangos ar rhai powyr arbenning.
Rydym
wedi bod yn cynllunio gwefannau ers 1997 cyn fod unrhyw feddalwedd
(software) cynhyrchu gwe dibynadwy i'w gael ac felly yr ydym yn
adnabyddus iawn gyda HTML a gallwn newid y côd wrth law neu
ysgrifennu'r wefan i gyd wrth law os bydd galw i wneud hynny.
Rydym
yn ceisio o hyd peidio defnyddio unrhyw beth sydd yn cymeryd amser
hir iawn i'w islwytho (download). Rydym yn sylweddolu nad oes band
eang na'r cyfrifiadur diweddaraf, cyflymaf gyda phawb a fydd yn
edrych ar y wefan. Mae'r lluniau i gyd yn cael eu ehangu i gadw
maint y ffeil yn fechan fel eu bod yn trosglwyddo yn fuan.
Gan eu bod yn cael eu cynllunio yn ôl eich archeb, mae'n gwefannau
ni i gyd yn unigol ac nid wedi eu cynllunio i ffurf neu batrwm cyffredin.
I
gynhyrchu gwefannau mwy cymhleth neu sydd ac angen e-fasnach rydym
yn adnabyddus gyda JavaScript, sgriptiau CGI wedi eu ysgrifennu
mewn Perl, PHP a chronfeydd data MySql.
|