Gosod Gwybodaeth
Os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech ei gynnwys
ar Wefan Llangadog yna cysylltwch os gwelwch ch’n dda â
chydlynydd / hyrwyddwr y wefan, sef, Peter Berry, ar rif ffôn
01550 - 777980, neu anfonwch e-bost ato - neges@llangadog.com,
neu’n hytrach galwch i mewn yn Swyddfa Bost Llangadog (Dydd
Mawrth o 10.30 o’r gloch y bore tan 12.00 o’r gloch
canol dydd).
Os ydych yn cynnal clwb neu gymdeithas yn ardal
Llangadog gellir hyrwyddo eich cyfarfodydd neu’ch digwyddiadau
yn ein hadran ar “Digwyddiadau”.
Os ydych yn cadw busnes, neu’n darparu llety,
prydau bwyd neu luniaeth yn ardal Llangadog gellir cyhoeddi eich
gwasanaethau yn adrannau ein Rhestr Busnesau,
Llety neu Bwyd a Diod.
Os oes gennych eich gwefan / neu eich cyfeiriad e-bost eich hun
eisioes rhowch wybod i ni os gwelwch chi’n dda gan y gallwn
ddarparu cysylltiad uniongyrchol â nhw o Wefan Llangadog.
Bydd gwybodaeth newydd a anfonir atom fel arfer
yn ymddangos ar y wefan o fewn ychydig ddyddiau.
Peidiwch ag anghofio y gallwch ychwanegu at neu
ateb i unrhywbeth a geir ar ein Bwrdd Neges trwy anfon e-bost at
neges@llangadog.com.
Ychwanegir y negesau yma o fewn 24 awr.
Darperir y gwasanaethau yma ar gyfer lles ein cymuned
ac ni chodir unrhyw dâl o gwbl arnoch chi !
|