Cyhoeddiadau
Cyhoeddi Archaeologia Cambrensis yw gwaith amlycaf
y Gymdeithas. Er 1846 pan oedd ef yr unig gychgrawn yn ymwenud â
hanes a hynafiaethau Cymru, y mae wedi cyhoeddi adroddiadau ar yr
holl waith pwysig a wneir ac wedi bod yn rheng flaen datblygiadau
academaidd. Y mae'r cyfrolau cynnar lle y cyhoeddwyd llawer o ddogfennau
hanesyddol gwreiddiol am y tro cyntaf, yn arbennig o bwysig. Hefyd
cyhoeddwyd cloddiadau arwyddocaol a thrafodaethau ar destunau newydd
o bwys megis archaeoleg diwydiannol a hanes garddio yn ystod y blynyddoedd
diweddar.
Yn ogystal â'r cylchgrawn blynyddol, cyhoeddwyd
Atodiadau, megis Parochialia Edward Llwyd a Tour through Anglesea
Skinner (sydd bellach wedi ei ail_brintio'n breifat), ynghyd â
chyfres o adroddiadau ar gloddiadau pwysig yng Nghymru, er enghraifft,
cynhyrchwyd y Cambrian Monograph Series yn y 1970au a'r 1990au.
Cyhoeddiadau sydd ar werth
Cynnwys cyfrolau diweddar o Archaeologia
Cambrensis
|