Grantiau a Dyfarniadau
Gwobr G. T. Clark
Mae’r Gymdeithas yn gweinyddu Cronfa Ymddiriedolaeth G. T.
Clark, a sefydlwyd i goffau archaeolegydd enwog o’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Dyfernir Gwobrau G. T. Clark i’r cyfraniadau
mwyaf nodedig sydd wedi’u cyhoeddi i’r astudiaeth o
hanes a hynafiaeth Cymru a’r Gororau dros y bum mlynedd diwethaf.
Dyfarnwyd y gwobrau diwethaf yn 2002.
Cronfa Ymchwil
Mae’r Gronfa Ymchwil yn bodoli er mwyn annog ymchwil o fewn
maes diddordeb y Gymdeithas. Mae’n cynnwys teithio, gwaith
maes, cloddio a gwasanaethau gwyddonol cysylltiedig, ymchwil hanesyddol,
a dulliau addas eraill sydd o gymorth megis ffotograffiaeth, llungopïo,
teipio, a pharatoi darluniau ar gyfer eu cyhoeddi. Fel arfer mae’r
dyfarniadau tua £500 ac fe’u cyfyngir i brosiectau sy’n
ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â Chymru
a’r Gororau. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u llanw
a chopïau (hyd at chwech os yn bosib) erbyn diwedd mis Hydref
bob blwyddyn i’w rannu’r mis Ionawr canlynol. Gellir
cyflwyno ceisiadau hwyr cyn dechrau mis Ionawr, ond dim ond os nad
yw’r dyraniad llawn wedi’i roi y bydd ceisiadau hwyr
yn cael eu hystyried.
Ffurflen
gais mewn ffurf Word. (Yn agored mewn ffenestr newydd).
Ffurflen
gais mewn ffurf Adobe Acrobat. (Yn agored mewn ffenestr newydd).
Danfonwch y ffurflen i'r ysgrifennydd.
Cronfa Addysgiadol
Sefydlwyd y gronfa hon gan y Gymdeithas er mwyn rhoi grantiau i
fyfyrwyr a phobl ifanc eraill o dan 25 oed sy’n mynychu astudiaethau
neu weithgareddau archaeolegol, sy’n ymwneud yn benodol â
Chymru a’r Gororau. Fel arfer mae grantiau tua £25–50
a’u bwriad yw i gynorthwyo i dalu am gostau llyfrau neu offer
a thalu ffioedd, tanysgrifiadau neu unrhyw dreuliau eraill a ystyrir
i fod yn addas. Ni chymhwysir grantiau tuag at gostau cloddio gan
fod hyn yn dod o dan Gronfa Ymchwil y Gymdeithas. Dylid cyfeirio
ceisiadau yn rhoi manylion llawn i’r Ysgrifennydd Cyffredinol
presennol (rhoddir yr enw a chyfeiriad uchod).
Cysylltwch gyda'r ysgrifennydd am ffurflen gais.
|