Amdanom Ni
Y Gymdeithas
Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846
ac mae’n elusen gofrestredig (rhif 216249). Ei hamcanion elusennol
yw i ‘archwilio, cadw a dehongli cofadeiliau hynafol ac olion
o hanes, iaith, agweddau, arferion, celfyddydau a diwydiannau Cymru
a’r Gororau ac i addysgu’r cyhoedd ynghylch materion
o’r fath’.
Ers ei sefydlu mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi cylchgrawn
blynyddol, Archaeologia Cambrensis (sydd yn rhad ac am ddim i aelodau)
a gynhwysodd erthyglau gan ysgolheigion blaenaf y dydd ar ddogfennau
hanesyddol, hanes archeolegol, hanes teuluol a henebion, darganfyddiadau
a chloddiadau archeolegol.
Ynghyd â'i swyddogaeth fel cyhoeddwr cofnodion
hanesyddol pwysig a syniadau newydd, gwelodd y Gymdeithas ei hun
erioed yn gymdeithas o eneidiau hoff cytûn sydd yn mwynhau
rhannu eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd am y gorffennol. Bu CYFARFODYDD
HAF y gymdeithas yn gynulliadau nodedig iawn yn ystod y bedwaredd
ganrif ar bymtheg ac maent yn dal i fod felly heddiw.
Mae'r Gymdeithas yn cynnal dau gyfarfod y flwyddyn,
wythnos ynghanol yr haf a phenwythnos yn yr hydref, gan ymweld â
safleoedd a henebion ym mhob rhan o Gymru ac weithiau yn Lloegr,
Iwerddon a gwledydd eraill. Cynhelir Cynadleddau Pasg a darlithoedd
ar faterion o ddiddordeb cyfoes mewn hanes ac archaeoleg bob yn
ail flwyddyn. Trefnir hefyd ddarlith yn Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol
bob blwyddyn.
Ymwnâ'r Gymdeithas hefyd â hyrwyddo
diddordeb yn y gorffennol ymysg yr ifainc drwy noddi gwobr i blant
ysgol ar gyfer traethawd neu gywaith – gwobr
Blodwen Jerman (saesneg yn unig). Mae hefyd yn rhoi cymorthdaliadau
bach bob blwyddyn ar gyfer ymchwil archeolegol a hanesyddol.
Trefniadaeth a Chysylltiadau
Ymweliad ddiweddar ag ardal Caernarfon
|